Job 22

Y trydydd cylch o ddadleuon

(Job 22:1—27:23)

Ymateb Eliffas: Mae Job yn ddyn drwg iawn

1A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:

2“All person dynol fod o unrhyw help i Dduw?
Ydy dyn doeth o unrhyw fudd iddo?
3Ydy'r Un sy'n rheoli popeth ar ei ennill os wyt ti'n ddieuog?
Oes mantais iddo dy fod ti'n byw yn iawn?
4Ydy e'n dy alw i gyfri am dy fod wedi byw'n dduwiol?
Ai dyna pam mae e'n dy farnu di?
5Na, mae'n rhaid dy fod wedi gwneud drwg,
ac wedi pechu'n ddiddiwedd!
6Wedi cymryd gwystl oddi ar bobl heb achos,
a'u gadael nhw yn noeth, heb ddillad.
7Wnest ti ddim rhoi dŵr i'r sychedig ei yfed,
na bara i'w fwyta i bobl oedd yn newynu.
8Roeddet ti'n ddyn pwerus, yn berchen tir
ac yn byw arno, ac mor freintiedig;
9ond yn troi gweddwon i ffwrdd heb ddim,
ac yn dwyn eu hawliau oddi ar blant amddifad.
10Dyna pam rwyt ti wedi dy ddal yn y picil yma,
ac yn sydyn yn cael dy hun mewn panig.
11Mae hi mor dywyll arnat ti, alli di weld dim,
ac mae'r llifogydd ar fin dy foddi di!
12Ydy Duw ddim yn y nefoedd uchod?
Edrych ar y sêr pellaf sy mor uchel!
13Ond rwyt ti'n dweud, ‘Beth mae Duw'n ei wybod?
Ydy e'n gallu barnu drwy'r cymylau duon?
14Dydy e ddim yn gweld, am fod cymylau yn ei guddio
wrth iddo gerdded o gwmpas yn entrychion y nefoedd!’
15Wyt ti am ddilyn yr un hen ffordd dywyll
mae pobl annuwiol wedi ei cherdded? –
16Cawson nhw eu cipio i ffwrdd o flaen eu hamser,
pan lifodd y dilyw dros eu sylfeini.
17Roedden nhw'n dweud wrth Dduw, ‘Gad lonydd i ni!’
a ‘Beth mae'r Un sy'n rheoli popeth yn gallu ei wneud i ni?’
18Ac eto Duw oedd yn llenwi eu tai â phethau da! –
Dydy ffordd pobl ddrwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi!
19Mae'r rhai cyfiawn yn gweld eu dinistr, ac yn llawen;
mae'r diniwed yn eu gwawdio nhw.
20‘Mae'r rhai cas wedi eu dinistrio,
a'u cyfoeth wedi ei losgi gan dân.’
21Ildia dy hun i Dduw, i ti brofi ei heddwch,
wedyn bydd pethau da yn digwydd i ti.
22Derbyn beth mae e'n ceisio'i ddysgu i ti,
a thrysora ei neges yn dy galon.
23Os gwnei di droi nôl at yr Un sy'n rheoli popeth, cei dy adfer.
Os gwnei di stopio ymddwyn yn anghyfiawn.
24Os gwnei di drin dy aur fel petai'n ddim ond pridd;
aur pur Offir yn ddim gwell na cherrig mewn nant,
25yna yr Un sy'n rheoli popeth fydd dy aur di,
fe fydd fel arian gwerthfawr.
26Bydd yr Un sy'n rheoli popeth yn dy wefreiddio,
a byddi'n gallu edrych eto ar Dduw.
27Byddi'n gweddïo arno, a bydd e'n gwrando arnat ti,
a byddi'n cadw dy addewidion iddo.
28Pan fyddi'n penderfynu gwneud rhywbeth, byddi'n llwyddo,
a bydd golau yn disgleirio ar dy ffyrdd.
29Pan fydd pobl mewn trafferthion, byddi'n galw ‘Helpa nhw!’
a bydd Duw yn achub y digalon.
30Bydd hyd yn oed yn achub yr euog;
bydd yn dianc am fod dy ddwylo di'n lân.”
Copyright information for CYM